Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

PAC(4)-06-11 (Papur 3)

 

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Faeth ac Arlwyo mewn Ysbytai

 

 

Cyflwyniad

1. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Faeth Cleifion ac Arlwyo mewn Ysbytai. Mae wedi ymrwymo i roi sylw i’r materion a nodir gan yr adroddiad i wella gwasanaethau a phrofiad cleifion.

2. Mae’r papur hwn yn darparu i’r Pwyllgor drosolwg ar y gwaith a wnaed i wella maeth cleifion ac arlwyo mewn ysbytai. Mae hefyd yn amlinellu’r datblygiadau presennol ac i’r dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod er bod y trefniadau arlwyo a’r gofal maethol a ddarperir i gleifion yn ysbytai Cymru wedi gwella, bod angen i’r arferion da gael eu gweithredu’n gyson fel bod anghenion maethol pob claf yn cael eu bodloni.

3. Caiff y cyfrifoldeb dros gyflawni argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Cefndir

 

4. Yn Nhachwedd 2007, bu i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Grymuso Prif Nyrsys Ward. Gwnaeth yr adroddiad dilynol, Rhyddid i Arwain, Rhyddid i Ofalu (LlyC 2008), 35 o argymhellion. Ymysg y rhain yr oedd datblygu Offeryn Archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan, datblygu Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan a datblygu Siart Cofnodi Bwyd Cymru Gyfan.

 

5. Yn 2009 cyflwynwyd y Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan ar draws pob ward ym mhob ysbyty yng Nghymru. Mae’r Llwybr Gofal yn cynorthwyo nyrsys yn y broses gwneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â sgrinio pob claf o safbwynt maeth pan gaiff ei dderbyn a’r gofal maethol sy’n ofynnol gydol ei amser yn yr ysbyty. Fe’i cefnogir gan y Siart Cofnodi Bwyd Cymru Gyfan a’r Siartiau Mewnbwn ac Allbwn Wythnosol a Dyddiol diwygiedig, gyda phosteri cysylltiedig sy’n rhoi enghreifftiau darluniadol o feintiau prydau amrywiol. Mae’r siartiau a’r posteri hyn yn galluogi cofnodi safonedig, cywir lefelau bwyd a diod cleifion ar draws GIG Cymru, gan gynorthwyo gydag adnabod, monitro a thrin cleifion sydd mewn perygl o ran maeth.

 

6. Ategir y datblygiadau hyn gan Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Faeth i staff a gyflenwyd gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru a oedd â’r nod o gynyddu pwysigrwydd bwyd a diod i’r un lefel â’r pwysigrwydd a roddir i feddyginiaeth.

 

7. Yn 2010 cyhoeddwyd Safonau Gofal Iechyd diwygiedig i Gymru, ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well - Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’. Roedd y safon newydd ar gyfer bwyd mewn ysbytai, Safon 14, a’r arweiniad ategol yn atgyfnerthu’r gofynion ar gyfer bodloni anghenion maethol cleifion a phwysigrwydd gweithredu’r Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan.

 

8. Er 2002 mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfleusterau (PC-GIG-GC), Ystadau Iechyd Cymru gynt, wedi cynnal cronfa ddata o wybodaeth am berfformiad yn seiliedig ar ddatganiadau blynyddol Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol. Mae hon yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau arlwyo ysbytai yn ogystal â materion eraill megis glanhau. Cyfeirir at y gronfa ddata hon fel y System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau (EFPMS). O safbwynt arlwyo, gall yr EFPMS gynorthwyo cyrff iechyd i wella perfformiad mewn meysydd megis gwastraff bwyd a chostau arlwyo. Mae hefyd yn darparu i Lywodraeth Cymru well dealltwriaeth o berfformiad y GIG gan gynnwys darpariaeth arlwyo ysbytai.

 

Canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol

 

9.  Daw adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol i’r casgliad bod trefniadau arlwyo a gofal maethol wedi gwella ar y cyfan ers astudiaeth y Comisiwn Archwilio yng Nghymru yn 2002, a bodd boddhad yn uchel o hyd ymysg cleifion. Fodd bynnag, daw hefyd i’r casgliad bod angen gwneud rhagor o hyd i sicrhau bod yr arferion da cydnabyddedig yn cael eu gweithredu’n ehangach, yn enwedig o safbwynt sgrinio maethol a chynllunio gofal, ac i sicrhau bod gwastraff bwyd yn cael ei leihau. Mae’r adroddiad yn codi pedwar mater eang o safbwynt y ddarpariaeth arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion:

 

i. Caiff cleifion eu sgrinio fel arfer am broblemau maethol ond gellir gwella ansawdd y sgrinio maethol (Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru tudalennau 21-27).

 

ii. Mae’r rhan fwyaf o ysbytai’n darparu dewis priodol o brydau ac mae cleifion, ar y cyfan, yn fodlon gyda’r bwyd a gânt, ond mae angen i’r asesiad maethol o fwydlenni a phrofiadau amser bwyd cleifion wella (Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru tudalennau 28-35).

 

iii. Mae ffocws rheoli cliriach ar gostau gwasanaethau arlwyo yn angenrheidiol i ddeall yn well yr amrywiadau sy’n bodoli ar draws sefydliadau’r GIG ac i leihau gwastraff bwyd, sy’n annerbyniol o uchel o hyd ar lawer o wardiau (Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru tudalennau 36-46).

 

iv. Mae rhagor o waith yn angenrheidiol i ddatblygu fframweithiau cynllunio lleol a chenedlaethol cliriach ar gyfer cynllunio a chyflenwi gwasanaethau arlwyo, ac er mwyn sicrhau bod barn cleifion yn dylanwadu ar y rhain (Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru tudalennau 47-52).

 

Sicrhau y bodlonir anghenion maethol cleifion

Cynnydd ar argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru 1a, 1b, 1c, 1d, 1e, 2a, 2b, 3a, 3b, 3c

 

10. Er mwyn sicrhau bod holl staff y wardiau’n deall sut i weithredu’n llwyr y Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan a chwblhau’r Siart Cofnodi Bwyd Cymru Gyfan, cyflwynwyd pecyn e-ddysgu ym Medi 2011. Bydd gweithredu’n llwyr y Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan yn rhoi sylw i lawer o’r materion a godwyd yn adroddiad yr archwiliad. Mae’r Llwybr Gofal yn mynnu bod pob claf yn cael ei sgrinio o safbwynt maeth adeg eu derbyn i’r ysbyty. Bydd y sgrinio’n canfod yr holl gleifion sydd â phroblemau maeth, neu sydd mewn perygl o’u datblygu, ac yn cychwyn proses gynllunio gofal, werthuso a monitro briodol. Mae gofyn i holl staff y wardiau gwblhau pecyn hyfforddiant e-ddysgu yn y 12 mis nesaf a bydd yn rhaid i staff newydd ei gwblhau cyn pen 12 mis o’u penodi.

 

11. Yn 2011 sefydlwyd Grŵp Ôl Weithredu - Rhyddid i Arwain, Rhyddid i Ofalu i gynnal prosiectau penodol sy’n cefnogi gwelliannau yn y gofal i gleifion. Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw i’r materion a ddynodwyd yn yr Archwiliadau Hanfodion Gofal ac mewn adroddiadau cenedlaethol megis adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ‘Gofal gydag Urddas?’ (2011). Sefydlwyd gweithgor i adolygu a safoni dogfennau nyrsio ledled Cymru, gan felly sicrhau dull cyson o gynllunio gofal a sgrinio maethol.

 

12. Caiff gweithredu’r Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan a’r cydymffurfio â’r gofynion hyfforddiant eu monitro drwy gyfrwng Offeryn Archwilio Hanfodion Gofal. Er 2009 mae gofyn i sefydliadau’r GIG gynnal archwiliad llawn o wardiau/adrannau eu holl ysbytai yn flynyddol a chyflwyno’r canlyniadau i Brif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio Cymru. Gall y system electronig sy’n ategu’r offeryn archwilio ddadansoddi a chynhyrchu adroddiadau o’r data a gofnodir ar lefel wardiau. Mae hefyd yn galluogi pob ward i ddatblygu cynlluniau gofal er mwyn rhoi sylw i faterion sy’n peri pryder a welwyd yn ogystal ag adeiladu ar feysydd arferion da. Dangosodd archwiliad Hanfodion Gofal Cymru Gyfan 2010 fod pob Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth, er 2009, wedi gwella’i sgôr cyffredinol ar gyfer y safon Bwyta ac Yfed, o safbwynt gweithredol a defnyddwyr. Er enghraifft, mae Caerdydd a’r Fro wedi gwella’u sgôr gweithredol o 75% yn 2009 i 90.8% yn 2010 a’u sgôr defnyddwyr o 79.1% i 91.7%, yn yr un drefn.

 

13. Mae pump o’r wyth corff GIG yn adrodd yn benodol bod eu hadroddiadau lleol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu defnyddio fel sbardun allweddol ar gyfer gwella maeth ac arlwyo. Mae holl gyrff y GIG yn datgan eu bod yn dilyn y Llwybr Gofal a bod cynllunio gofal cleifion yn seiliedig ar ganlyniad y sgrinio maethol. Maent yn rhoi sylw i unrhyw broblemau gyda chydymffurfio gwael gyda’r Llwybr Gofal. Mae pob Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth wedi penodi cydgysylltydd i arwain, monitro ac adrodd yn ôl ar weithredu’r hyfforddiant e-ddysgu ar y Llwybr Gofal, gan sicrhau bod holl staff wardiau’n cael yr hyfforddiant cyn pen 12 mis.

 

14. Gan adeiladu ar y Llwybr Gofal Cymru Gyfan, cyflwynwyd Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Bwyd a Diod i Gleifion Mewnol Ysbytai yn Hydref 2011 ac maent yn cael eu cyflwyno i bob ysbyty. Maent yn gosod safonau maeth a bwyd ar gyfer prydau, byrbrydau a diodydd. Sefydlwyd grŵp o ddietegwyr ac arlwywyr i ddatblygu cronfa ddata genedlaethol o fwydlenni a ryseitiau, y dadansoddwyd eu maeth, ac sy’n cydymffurfio â’r Safonau.

 


Gwella profiad Cleifion o amseroedd bwyd

Cynnydd ar argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru 3a, 3b, 3c

 

15. Mae holl gyrff y GIG wedi, neu wrthi’n, adolygu bwydlenni a’r trefniadau ar gyfer archebu a gweini bwyd er mwyn sicrhau eu bod yn darparu dewisiadau priodol ar gyfer anghenion diwylliannol a dietegol cleifion ac yn bodloni’r Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Bwyd a Diod i Gleifion Mewnol Ysbytai. Mae holl gyrff y GIG hefyd yn adrodd am arferion adolygu ar lefel y wardiau, er mwyn sicrhau bod staff yn paratoi amgylchedd y ward fel ei fod yn annog cleifion i fwyta a bod cleifion yn cael eu helpu i baratoi ar gyfer eu prydau, gan gynnwys bod yn gallu golchi eu dwylo cyn i’r bwyd gael ei weini. Mae’r rhan fwyaf wedi defnyddio adborth cleifion i hysbysu newidiadau mewn ymarfer ac wedi dynodi aelod penodol o dîm y ward i fod yn gyfrifol am hybu a gweithredu’r arferion newydd.

 

16. Mae holl gyrff y GIG yn datgan bod y rhan fwyaf o wardiau’n gweithredu polisi amser bwyd neilltuedig. Amlygasant hunanfodlonrwydd fel un broblem a chydnabyddir bod gwaith i’w wneud o hyd gyda disgyblaethau ehangach, heblaw am nyrsio, er mwyn gwneud amseroedd bwyd neilltuedig yn norm. Er enghraifft, gweithio gyda meddygon i’w hannog i beidio â gwneud gweithgaredd clinigol nad yw’n weithgaredd brys yn ystod amseroedd bwyd.

 

Rheoli cost gwasanaethau arlwyo

Cynnydd ar argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru 4a, 4b, 5a, 5b, 5c, 6a, 6b, 6c, 6d, 7a, 7b

 

17. Mae gwaith yn mynd rhagddo, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, i ddatblygu model ar gyfer costio gwasanaethau arlwyo i gleifion ac eraill er mwyn galluogi cymharu costau arlwyo ysbytai’n ystyrlon ledled Cymru. Bydd hwn wedi’i gwblhau erbyn Rhagfyr 2011 a bydd yn adeiladu ar y model arferion da a ddatblygwyd eisoes gan y Bwrdd, sydd ar hyn o bryd yn canfod costau ar gyfer gwasanaethau arlwyo i gleifion ac i eraill. Ar yr un pryd, mae PC-GIG-GC yn cysylltu gyda Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre i gael gwybodaeth fanwl am fodelau costio y maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd i hysbysu data EFPMS.

 

18. Mae dros hanner cyrff y GIG yn gweithredu systemau gwybodaeth arlwyo cyfrifiadurol ac mae’r lleill yn adolygu eu harferion ar hyn o bryd. Mae holl gyrff y GIG yn adrodd bod cyfran fawr o’r cynhyrchion yn cael eu prynu drwy gyfrwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Caffael, contractau Cyflenwadau Iechyd Cymru gynt. Mae’r rhan fwyaf o gyrff y GIG wedi sefydlu rhai ryseitiau safonedig wedi’u costio ond nid yw’r cyfan ohonynt wedi sefydlu lwfansau bwyd a diod dyddiol ar gyfer cleifion. Mae holl gyrff y GIG yn cydnabod yr angen i roi sylw i hyn a bwriadant wneud hynny wrth iddynt addasu bwydlenni i gydymffurfio â’r Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Bwyd a Diod i Gleifion Mewnol Ysbytai. Cefnogir hyn gan gronfa ddata o ryseitiau a bwydlenni wedi’u datblygu’n ganolog. Mae holl gyrff y GIG wedi dechrau rhoi sylw i’r argymhellion ynghylch gwasanaethau arlwyo i rai nad ydynt yn gleifion a bydd y model costio yn cefnogi’r gwaith hwn.

 

19. Mae adroddiad yr Archwiliad yn argymell gosod targedau ar gyfer gwastraff bwyd. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Defra, Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r corff a noddir gan y Llywodraeth WRAP (Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) i ddatblygu cytundeb gwirfoddol ar gyfer y Sector Lletygarwch, gan gynnwys arlwyo mewn ysbytai, sy’n cynnwys targed lleihau gwastraffu. Mae’r rhan fwyaf o gyrff y GIG yn adrodd eu bod yn canfod y rhesymau am wastraffu, a’u bod yn defnyddio’r wybodaeth hon i leihau gwastraffu. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’n nodi gwelliant mewn datblygu cydgyfrifoldeb dros reoli gwastraff gyda gweithredu’n digwydd yn lleol.

 

Cynllunio a monitro gwasanaethau’n effeithiol

Cynnydd ar argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru 8a, 8b, 8c, 9a, 9b, 9c, 10a, 10b, 11a, 11b, 11c

 

20. Datblygwyd gwefan ‘Fframwaith Maeth ac Arlwyo mewn Ysbytai’ er mwyn dwyn ynghyd bob arweiniad polisi sy’n rhoi sylw i faeth cleifion ac arlwyo mewn ysbytai. Mae’n rhan o ‘Iechyd yng Nghymru, sef porth sefydliadol GIG Cymru, Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Cymru (HOWIS) yn ffurfiol. Bydd y wefan ‘Fframwaith’ ar gael yn fuan ar bob ward ym mhob ysbyty drwy gyfrwng y Parth Gwybodaeth Nyrsio Cymru Gyfan a gyflwynwyd yn ddiweddar.

 

21. Mae holl gyrff y GIG yn adrodd bod ganddynt, neu eu bod yn datblygu, strwythurau lleol a thimau aml ddisgyblaeth i sicrhau bod gweithdrefnau a chynlluniau diweddar wedi’u sefydlu er mwyn gweithredu gofynion polisïau cenedlaethol. Dewiswyd arweinwyr gweithredol ar lefel Cyfarwyddwyr yn holl gyrff y GIG a chaiff pob Bwrdd ei hysbysu o’r materion arlwyo a maeth drwy gyfrwng adroddiad blynyddol, fan leiaf.

 

22. Mae holl gyrff y GIG yn canfod cleifion sydd mewn perygl o safbwynt maeth drwy gyfrwng sgrinio maethol. Mae angen gwneud gwaith pellach i sicrhau y rhennir ac y defnyddir y wybodaeth hon er mwyn canfod yr effaith debygol ar wasanaethau arlwyo a maeth. Cesglir manylion cydymffurfio â defnyddio offeryn sgrinio maethol fel rhan o’r Archwiliad Hanfodion Gofal a gynhelir ar bob ward ledled Cymru.

 

23. Adroddodd chwech o’r wyth corff GIG eu bod yn cynnal arolygon o foddhad cleifion gyda gwasanaethau arlwyo ac maent oll yn cysylltu â’r cleifion drwy gyfrwng amrywiol beirianweithiau er mwyn canfod y problemau, rhannu’r canfyddiadau gydag arlwywyr a staff y wardiau ac, yn y pendraw, er mwyn gwella’u gwasanaethau maeth ac arlwyo.

 

24. Eleni, fel yn y blynyddoedd blaenorol, gweithiodd PC-GIG-GC gyda chyrff y GIG i sicrhau eu bod yn deall y diffiniadau data ac er mwyn gwella cadernid y data a gyflwynir. Daeth y data ar gyfer EFPMS 2010-2011 i law a bwriedir cyhoeddi’r adroddiadau yn Rhagfyr 2011. Bydd y data EFPMS a ddefnyddiwyd i baratoi’r adroddiadau hyn ar gael oddi ar wefan PC-GIG-GC. Mae holl gyrff y GIG yn adrodd gan ddefnyddio data’r EFPMS i ryw raddau.

 

25. Eleni, ar ôl cyhoeddi, bwriedir cynnal sesiwn adborth gyda holl gyrff y GIG er mwyn canfod sut y gallai’r EFPMS o bosibl fod yn offeryn meincnodi mwy effeithiol i godi safonau a gwella ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau i gleifion. Mae PC-GIG-GC hefyd yn cydweithredu gyda’u cydweithwyr nyrsio yn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cydlyniant rhwng y data a gesglir drwy gyfrwng y system EFPMS a’r hyn a gesglir fel rhan o’r archwiliadau Hanfodion Gofal. Ystyrir bod hyn yn hanfodol ar gyfer darparu gwybodaeth ar weithredu amcanion polisïau cenedlaethol yn lleol.

 

Casgliadau

26. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella maeth cleifion ac arlwyo mewn ysbytai. Mae’r papur hwn wedi amlygu amrywiol weithredu a wnaed eisoes cyn cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd â datblygiadau newydd pwysig megis y Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Bwyd a Diod i Gleifion Mewnol Ysbytai sydd wedi gosod safonau maeth a bwyd ar gyfer prydau, byrbrydau a diodydd.

27. Drwy ddefnyddio Offeryn Archwilio Hanfodion Gofal, gall wardiau ledled Cymru ganfod pa agwedd ar yr ymarfer a phrofiad cleifion sydd angen eu gwella. Mae hwn yn cynnwys profiad cleifion o fwyta ac yfed yn yr ysbyty. Mae archwiliad Hanfodion Gofal Cymru Gyfan 2011 newydd ddechrau a disgwylir y bydd cyrff y GIG yn parhau i wneud gwelliannau pellach yn y maes hwn.

28. Bydd canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn hysbysu gweithredu pellach.

David Sissling

Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasola Phlant
Hydref 2011